Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo wedi rhybuddio nifer o wledydd, gan gynnwys Rwsia a Tsieina, rhag torri’r sancsiynau yn erbyn Gogledd Corea sydd yn eu lle er mwyn eu darbwyllo i ildio’u harfau niwclear.

Yn ôl adroddiad newydd gan y Cenhedloedd Unedig, dydy Gogledd Corea ddim wedi rhoi’r gorau i’w rhaglenni niwclear a thaflegrau, yn groes i’r sancsiynau.

Wrth siarad yn Singapôr, dywedodd Mike Pompeo fod ganddo dystiolaeth fod Rwsia yn torri’r sancsiynau drwy gydweithio â chwmnïau yng Ngogledd Corea a thrwy roi trwyddedau newydd i weithwyr dros dro o Ogledd Corea yn y wlad.

Dywedodd y byddai Washington yn cymryd unrhyw weithred o dorri’r sancsiynau’n “ddifrifol iawn”.