Mae rhai o drysorau brenhinol Sweden wedi cael eu dwyn o eglwys gadeiriol yn y wlad.

Ymhlith y gemau roedd dwy goron a gafodd eu defnyddio gan y brenin Karl IX a’r frenhines Kristina.

Mae’r ddau sy’n cael eu hamau o ladrata, wedi ffoi mewn coch modur, ac mae lle i gredu iddyn nhw fynd i gyfeiriad llynnoedd Stockholm.

Mae’r heddlu wrthi’n chwilio amdanyn nhw gan ddefnyddio cychod a hofrenyddion.

Yn ôl yr awdurdodau, fe fyddai’n amhosib gwerthu’r eitemau a gafodd eu dwyn o eglwys gadeiriol Strangnas ddydd Mawrth.