Mae’r heddlu yn yr Eidal wedi adnabod corff sgïwr a aeth ar goll yn yr Alpau yn 1954.

Fe gafodd y corff ei ddarganfod yn 2005 ar ôl i rewlif yng ngogledd yr Eidal gilio.

Doedd yr awdurdodau ddim wedi adnabod y corff ers hynny, ond yn dilyn apêl ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddaeth dynes i gysylltiad â swyddogion yn dweud bod ei hewythr wedi diflannu yn yr Alpau yn 1954.

Mae profion DNA a ddefnyddiodd samplau oddi ar y corff ei hun a brawd y diflanedig bellach wedi profi mai Henri La Masne yw’r corff.

Roedd y gŵr yn ei 30au ar y pryd, ac fe aeth ar goll tra’r oedd ar wyliau sgïo yn Cervinia.