Mae Archesgob o Awstralia a gafwyd yn euog o gelu gwybodaeth ynghylch cam-drin plant yn rhywiol, wedi gadael ei swydd.

Fe gafodd Philip Wilson, cyn-Archesgob Adelaide, ei ddedfrydu am gelu gwybodaeth rhag yr awdurdodau ym mis Mai.

Roedd wedi methu ag adrodd gwybodaeth wrth yr heddlu am glerigwr o fewn yr Eglwys Gatholig a wnaeth gam-drin dau fachgen ifanc yn ardal Hunter Valley yng ngogledd Sydney yn ystod y 1970au.

Roedd y dyfarniad hwn yn golygu mai Philip Wilson yw’r clerigwr uchaf ei statws o fewn yr Eglwys Gatholig i gael ei ganfod yn euog am drosedd o’r fath.

Ond ers yr achos, roedd yr Archesgob wedi gwrthod ymddiswyddo, a hynny am ei fod yn ceisio apelio yn erbyn dyfarniad y llys.

Ers hynny, mae nifer wedi galw ar y clerigwr i gamu o’r neilltu, gan gynnwys Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull.

Ond mae’r Fatican wedi cadarnhau erbyn hyn fod yr archesgob wedi ymddiswyddo, a bod y Pab wedi derbyn hynny.