Mae o leiaf 27 o bobol wedi cael eu lladd gan hunanfomiwr yn ne Syria.

Mae lle i gredu mai Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn nhalaith Sweida.

Mae rhai adroddiadau’n awgrymu bod hyd at 32 o bobol wedi’u lladd.

Fe fu lluoedd y llywodraeth yn brwydro â chriw o wrthryfelwyr Islamaidd yn yr ardal ers tro.