Mae daeargryn grymus wedi anafu o leiaf 79 o bobol yn ne Iran, yn ôl adroddiadau ar deledu’r wlad.

Roedd y daeargryn yn mesur 5.8. Nid oes unrhyw adroddiadau ar hyn o bryd bod unrhyw un wedi’u lladd.

Fe ddigwyddodd y daeargryn yn gynnar fore dydd Llun ger pentref Sirch yn nhalaith Kerman, sydd tua 683 o filltiroedd i’r de o’r brifddinas Tehran.

Roedd nifer o ol-ddirgryniadau a daeargryn yn mesur 4.8 yn y gogledd ddwyrain. Daw’r diweddaraf ddiwrnod yn unig ar ôl cyfres o ddaeargrynfeydd a oedd wedi anafu bron i 300 o bobol.

Mae daeargrynfeydd yn gyffredin yn Iran. Roedd daeargryn yn mesur 7.2 wedi taro gorllewin Iran ym mis Tachwedd gan ladd mwy na 600.