Mae un o brif swyddogion cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau wedi amddiffyn ei sylwadau’n beirniadu’r cyfarfod rhwng yr Arlywydd Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn Helsinki.

Fe ddaeth sylwadau Dan Coats yn ystod cyfweliad byw ar y teledu pan glywodd, yn fyw ar yr awyr, am y bwriad i gynnal ail gyfarfod yn Washington yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd mewn modd eironig y byddai’r cyfarfod hwnnw’n un “arbennig”, ond fe ddywedodd yn ddiweddarach nad oedd e wedi bwriadu amharchu na sarhau’r Arlywydd Trump.

Mae e wedi cyhuddo’r cyfryngau o gamddefnyddio’r sylwadau, ond mae’n cyfaddef fod ei ymateb o glywed am y cyfarfod yn “drwsgl”.

Beirniadu

Fe fu Dan Coats dan y lach ers iddo ddweud ei fod yn difaru’r cyfarfod rhwng Donald Trump a Vladimir Putin yn Helsinki, a bod y cyfarfod hwnnw’n groes i ddymuniad asiantaethau cudd-wybodaeth.

Cyhoeddodd e ddatganiad yn gwrthwynebu sylwadau Donald Trump am ymyrraeth Rwsia yn etholiadau arlywyddol y wlad.

Roedd pryderon y gallai ymddiswyddo yn sgil ei sylwadau.

Dywedodd yn ystod y cyfweliad nad oedd e’n gwybod beth yn union oedd natur y drafodaeth rhwng y ddau arlywydd yn Helsinki.

Ond fe ategodd ei sylwadau blaenorol fod Rwsia’n fygythiad i drefn etholiadol yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y byddai wedi cynghori’r Arlywydd Trump i beidio â chynnal cyfarfod un-i-un drwy gyfieithwyr pe bai wedi cael cais am gyngor ganddo.