Mae dynes wedi cael ei saethu’n farw ar ôl cael ei chipio gan ddyn arfog mewn archfarchnad.

Roedd hi’n un o nifer o wystlon oedd wedi cael eu cadw yn archfarchnad Trader Joe’s yn ardal Silver Lake.

Mae dyn yn y ddalfa ac mae lle i gredu ei fod e wedi saethu ei gariad a’i fam-gu cyn cael ei gwrso gan gar yr heddlu cyn iddo daro i mewn i bolyn a ffoi i mewn i’r archfarchnad.

Fe gymerodd e nifer o bobol yn wystlon, ond llwyddodd nifer ohonyn nhw i ddianc, ac fe gerddodd y saethwr honedig allan gyda’r olaf ohonyn nhw ac ildio i’r heddlu.