Mae arlywydd Tsieina, Xi Jinping, wedi cyrraedd Affrica, ar ymweliad â phedair gwlad. Mae’n gobeithio gwneud cysylltiadau milwrol ac economaidd ar y cyfandir.

Fe ddaw ei ymweliad wrth i’r Unol Daleithiau, yn sgil brwydr fasnach chwerw, ddangos llai o ddiddordeb yn Tsieina.

Dyma ymweliad tramor cyntaf Xi Jinping ers iddo gael ei ethol i fod yn arlywydd am ail dymor ym mis Mawrth eleni. Mae’r ail dymor yn rhoi rhwydd hynt i arwain am cyhyd ag y mae’n dymuno.

Mae’n mynd i fod yn ymweld â Senegal a Rwanda, cyn cymryd rhan mewn cynhadledd o wledydd BRICS – yr eonomïau sydd ar gynnydd yn Ne Affrica – o ddydd Mercher ymlaen.

Mae ymweliad arlywydd Tsieina hefyd yn tanlinellu bwriad ei wlad o wneud cysylltiadau ag Affrica, Ewrop a rhannau eraill o Asia, gan gysylltu rhwydwaith o borthladdoedd, rheilffyrdd, safleodd cynhyrchu egni ac ardaloedd economaidd.

Mae olew Nigeria ac Angola yn rhan o’r weledigaeth, fel ag y mae mineralau prin yn y Congo.