Mae Sbaen wedi diddymu gwarant i arestio Arlywydd Catalonia, gan ddod â’r broses o geisio’i estraddodi i ben yn ffurfiol.

Roedd cais wedi ei wneud i estraddodi Carles Puigdemont o’r Almaen, ond mae erlynwyr wedi gofyn i lys yn Schleswig ddod â’r broses i ben.

Ddoe fe gafodd y ceisiadau i estraddodi Puigdemont a phump o wleidyddion eraill eu gollwng gan farnwr yn Sbaen.

Roedd y gwleidyddion o Gatalonia wedi eu cyhuddo o hyrwyddo annibyniaeth i Gatalonia ac fe gafodd Puigdemont ei arestio yn yr Almaen fis Mawrth, wrth iddo deithio o’r Ffindir i Wlad Belg ar ôl dianc o Sbaen y llynedd.