Mae heddlu India wedi lladd wyth o wrthryfelwyr Maoaidd, yn cynnwys pedair dynes, mewn cyfnod o saethu yn eu cadarnle yng nghanolbarth y wlad.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod y frwydr ddwy awr wedi digwydd yn gynnar fore Iau (Gorffennaf 19) mewn ardal goediog yng nghyffiniau Bijapur yn nhalaith Chhattisgarh.

Fe ddaeth lluoedd diogelwch o hyd i gyrff wyth o wrthryfelwyr a rhai reifflau yn eu dwylo.

Mae’r gwrthryfelwyr Maoaidd, sy’n dilyn egwyddorion y chwyldrowr o Tsieina, Mao Zedong, wedi bod yn gwrthwynebu ac yn ymladd llywodraeth India ers mwy na deugain mlynedd.

Maen nhw’n galw am eu tiriogaeth eu hunain, ac am swyddi ar gyfer y cymunedau tlawd a chynhenid.