Mae ymosodiadau gan eithafwyr yn Mali yn bwrw cysgod dros yr etholiad arlywyddol y mis hwn, yn ol yr awdurdodau yn y wlad.

Mae cangen o al-Qaida wedi gosod bom car ym mhencadlys heddlu gwrthderfysgaeth Gorllewin Affrica yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r holl weithgaredd yn yr ardal wedi ansefydlogi’r wlad.

Mae o leiaf 289 o bobol gyffredin, yn cynnwys plant ifanc, wedi cael eu lladd yn ystod digwyddiadau treisgar er dechrau’r flwyddyn. Mae rhai pobol wedi cael eu llosgi’n fyw yn eu cartrefi, neu eu lladd tra’n ceisio lloches mewn mosgiau.

Wrth i etholiad arlywyddol Gorffennaf 29 nesáu, mae ansicrwydd yn effeithio ar ymgeiswyr hefyd.

Mae’r arlywydd presennol, Ibrahim Boubacar Keita, yn mynd am ail dymor yn y swydd. Ond mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan allai’r wlad ei chael ei hun mewn stad o argyfwng ac o newyn.