Mae Arlywydd Rwsia wedi disgrifio ei uwchgynhadledd gyntaf gyda Donald Trump yn “llwyddiant” – ond mae Vladimir Putin yn dweud fod gwrthwynebwyr arlywydd America gartref a thramor yn “rhwystro unrhyw ddatblygiad” yn y meysydd y buon nhw’n eu trafod.

Dywedodd fod beirniaid Donald Trump yn effeithio ar faterion megis cyfyngu ar arfau niwclear neu ddod â’r rhyfel yn Syria i ben.

Yn ei sylwadau cyhoeddus cyntaf am yr uwchgynhadledd, dywedodd Vladimir Putin wrth ddiplomyddion Rwsia bod cysylltiadau rhwng yr  Unol Daleithiau a Rwsia “mewn rhai ffyrdd yn waeth nag yn ystod y Rhyfel Oer”. Ond, meddai wedyn, mae ei gyfarfod â Donald Trump yn caniatáu iddyn nhw ddechrau ar “y llwybr at newid cadarnhaol”.

“Mae’n naïf meddwl y byddai’r problemau’n cael eu datrys mewn ychydig oriau. Ond nid oedd neb yn disgwyl hynny,” meddai Vladimir Putin.