Mae achubwyr wedi darganfod chwe chorff yn y rwbel wedi i ddau adeilad aml-lawr syrthio bron i 25 milltir i’r dwyrain o ddinas Delhi Newydd.

Mae’n bosib bod pedwar i bump o bobol eraill o dan y sbwriel hefyd, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, yn dilyn y digwyddiad yn ardal Noida Fwyaf, ger Delhi Newydd.

Nid yw’r achubwyr eto wedi tynnu neb allan yn fyw o’r rwbel, 24 awr wedi i’r gwaith clirio ddechrau.

Fe ddymchwelodd yr adeilad chwe llawr, a’r adeilad pedwar llawr cyfagos, wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.

Mae dros gant o achubwyr wrthi’n gweithio i gael gwared â’r rwbel ar y safle.