Mae dau blentyn wedi cael eu brathu ar eu coesau yn y dyfroedd oddi ar Long Island yn nhalaith Efrog Newydd.

Y gred ydi iddyn nhw ddioddef ymosodiadau gan siarc, ac mae’r awdurdodau, o ganlyniad, wedi cau y traethau.

Dywed heddlu lleol eu bod yn ymchwilio i ddau ddigwyddiad ar wahân, ar draethau Sailors Haven a Atlantique, ar Fire Island.

Cafodd bachgen 13 oed ei frathu tra ar fwrdd syrffio ar draeth Atlantique, a chafodd ei drin yn yr ysbyty. Roedd ymatebwyr brys wedi tynnu dant allan o’r cnawd yng nghoes y bachgen.

Yn Sailors Haven, fe gafodd merch 12 oed ei brathu, ac mae arbenigwyr yn dweud fod y marc arni “yn gyson â physgod mawr”.