“Does dim un Arlywydd erioed wedi bod mor gryf â finnau gyda Rwsia.”

Dyna yw sylw diweddara’ Donald Trump, yn sgil beirniadaeth o’i agwedd gyfeillgar tuag at y genedl a’u harweinydd, Vladimir Putin.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi denu ymateb chwyrn gan ei blaid ei hun, am wfftio honiadau bod Rwsia wedi ymyrraeth yn etholiad arlywyddol 2016.

Ac mae’r ffigwr wedi achosi dryswch yr wythnos hon, gan fynnu bod y wasg wedi camddehongli ei safiad.

Rhagor o ddryswch

Gan gymhlethu pethau ymhellach, mewn cynhadledd diweddar i’r wasg, mi ofynnodd gohebydd wrth Donald Trump am Rwsia.

Atebodd yr Arlywydd, gan awgrymu nad oedd yn credu bod Rwsia yn targedu yr Unol Daleithiau rhagor.

Bellach mae’r Tŷ Gwyn wedi ymateb trwy ddweud bod y ffigwr wedi’i gamddehongli unwaith eto.