Mae senedd Israel wedi pasio deddf ddadleuol sydd wedi codi pryderon ymhlith grwpiau lleiafrifol y wlad.

Dan y ddeddf hon, bydd Israel yn cael ei chydnabod fel cenedl-wladwriaeth yr Iddewon – a’r Iddewon yn unig.

Bydd Jerwsalem gyfan hefyd yn cael ei hystyried yn brifddinas ar Israel, a bydd statws yr iaith Arabeg yn cael ei israddio.

Mae Llywodraeth Israel wedi awgrymu na fydd newidiadau mawr yn dod yn sgil y ddeddf, ac wedi ei groesawu.

Mae naw miliwn o bobol yn byw yn Israel ac Arabiaid yw 20% o’r rheiny.