Bydd grŵp o fechgyn a dreuliodd 18 diwrnod yn sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai, yn cael eu hanfon adref o’r ysbyty yn ddiweddarach heddiw.

Ac mae disgwyl iddyn nhw roi cynhadledd i’r wasg, yn trafod eu profiadau.

Mae’r bechgyn yn aelod o dîm pêl-droed a aeth – ynghyd â’u hyfforddwr – yn sownd dan ddaear pan wnaeth twneli lenwi â dŵr.

Fe gawson nhw eu darganfod dros wythnos wedi hynny, ac erbyn Gorffennaf 10 roedd pob un ohonyn nhw wedi’i achub – diolch, yn rhannol, i gymorth gan ddeifwyr o Gymru.

Mae’r 13 ohonyn nhw bellach mewn cyflwr da, ac mae disgwyl iddyn nhw gymryd rhan mewn cynhadledd i’r wasg tua 11.00yb (amser Cymru).

Bydd seicolegwyr a doctoriaid wrth law i’w cynorthwyo, ac ni fydd y wasg yn cael holi’r bechgyn ar ôl y gynhadledd.