Yn sgil ymateb chwyrn i’w gyfarfod ag arweinydd Rwsia ddydd Llun (Gorffennaf 16), mae Donald Trump wedi datgan bod y wasg wedi camddehongli ei sylwadau.

Ar ôl cyfarfod â Vladimir Putin yn y Ffindir, fe wfftiodd honiadau bod Rwsia wedi ymyrryd ag etholiad arlywyddol 2016 – yr etholiad pryd y daeth ef ei hun i rym.

Roedd ei sylwadau yn gwbwl groes i ganfyddiadau ei wasanaeth cudd-wybodaeth ei hun yn America.

Ond, bellach mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud y bu iddo wneud camgymeriad.

“Does gen i ddim rheswm i gredu ‘nad Rwsia oedd ar fai’ – dyna oeddwn i’n trio ei ddweud,” meddai. “Mai Rwsia oedd ar fai” yw’r geiriad y defnyddiodd yn wreiddiol.

Mae hefyd wedi cydnabod bod Rwsia wedi ymyrryd yn etholiad 2016, ond wedi ceryddu dehongliad “Y Wasg Newyddion Ffug” o’i gyfarfod â Vladimir Putin.