Mae llywodraeth India wedi cyhoeddi gorchymyn i holl ganolfannau elusen y Fam Teresa gael eu harchwilio, ar ôl i leian a gweithiwr gael eu harestio ar amheuaeth o werthu babi.

Mae’r lleian a’r gweithiwr yn gweithio i loches sy’n cynnig cefnogaeth i famau nad ydyn nhw eisiau eu babanod.

Cawson nhw eu harestio ar ôl i gwpl Indiaidd honni eu bod nhw wedi talu 120,000 rupee i Anima Indwar, oedd yn gweithio i’r ganolfan yn Ranchi, prifddinas talaith Jharkhand yn nwyrain y wlad.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i nifer o gwynion eraill hefyd.

Mae’r elusen yn cynnal ymchwiliad, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud sylw.