Mae o leiaf gant o bobol gyffredin wedi’u lladd wedi i Rwsia ollwng bomiau ar ysgol yn ne-orllewin Syria.

Roedd y bobol yn cael lloches yn yr ysgol ym mhentref Ain el-Tineh ar ôl iddyn nhw orfod ffoi o’u cartrefi yn sgil y brwydro parhaus.

Mae Rwsia’n cefnogi lluoedd Arlywydd Syria, Bashar Assad yn erbyn gwrthryfelwyr sydd wedi meddiannu tiroedd yn ne-orllewin y wlad.

Yn ôl ffotograffydd lleol, cafodd o leiaf 20 o bobol eu hanafu, a nifer o blant yn eu plith.