Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cael ei feirniadu gan aelodau ei blaid ei hun, yn sgil ei gyfarfod ag arweinydd Rwsia.

Wrth siarad â’r wasg ar ddiwedd y cyfarfod, fe wfftiodd Donald Trump yr honiad bod Rwsia wedi ymyrryd ag etholiad arlywyddol 2016 – yr etholiad lle daeth ef ei hun i rym.

“Mae Arlywydd Rwsia, [Vladimir] Putin, wedi gwadu hynny mewn modd cryf a phwerus,” meddai. “Nid Rwsia sydd ar fai medde fe. Felly, does gen i ddim rheswm i’w beio.”

A daw’r sylwadau, er gwaetha’r ffaith bod gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau wedi datgan bod Rwsia wedi ymyrryd, ac yn parhau i wneud hynny.

Bellach mae llu o ffigyrau Gweriniaethol wedi beirniadu’r Arlywydd, gyda’r Seneddwr John McCain yn galw’r sylwadau diweddara’ yn “warthus”.

“Rhaid cywiro ei sylwadau” meddai Newt Gingrich, cyn Llefarydd y Tŷ, ac un o gefnogwyr mwya’ brwd Donald Trump.