Mae dau gwch â ffoaduriaid arnyn nhw – gan gynnwys plant a menywod – wedi angori yn yr Eidal.
Daw hyn wedi i Lywodraeth y wlad ddatgan na fyddai modd iddyn nhw angori yno, tan fod gwledydd Ewropeaidd eraill yn addo eu derbyn.
Bellach mae’r Almaen, Sbaen a Phortiwgal wedi cytuno i dderbyn y ffoaduriaid.
Roedd Ffrainc a Malta hefyd wedi cynnig rhoi lloches iddyn nhw, ond mi wrthododd y Weriniaeth Tsiec gan ddadlau bod y cynllun yn “ffordd i uffern”.
Er bod cynllun ar waith – mewn egwyddor – ledled Ewrop sy’n rhannu ffoaduriaid rhwng aelodau’r undeb, dyw’r Eidal ddim yn teimlo bod y baich yn cael ei rannu’n deg.