Fe fydd Donald Trump yn cwrdd ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn y Ffindir heddiw yn dilyn ei ymweliad a’r Deyrnas Unedig.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau eisoes wedi dweud nad yw ei ddisgwyliadau’n uchel am y cyfarfod yn Helsinki ddydd Llun.

Yn y cyfamser mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi annog Tsieina, Donald Trump a Vladimir Putin i weithio gydag Ewrop er mwyn osgoi rhyfel masnach a fyddai’n achosi “gwrthdaro ac anhrefn.”

Daeth sylwadau Donald Tusk wrth iddo ymweld â Beijing ar gyfer cynhadledd rhwng Tsieina a’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd yn ymateb i sylwadau Donald Trump dros y penwythnos ar ôl iddo ddweud mai gelyn pennaf yr Unol Daleithiau yw’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfweliad gyda CBS News dywedodd Donald Trump: “Dw i’n credu bod yr Undeb Ewropeaidd yn elyn, yr hyn maen nhw’n ei wneud i ni o ran masnach.”

Wrth iddo chwarae golff yn Turnberry yn yr Alban, dywedodd Donald Trump bod Rwsia yn elyn “mewn rhai ffyrdd” a bod Tsieina yn elyn “yn economaidd.. ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n ddrwg… mae’n golygu eu bod nhw’n gystadleuol.”

Mae Donald Trump a Vladimir Putin wedi cwrdd sawl gwaith yn y gorffennol.