Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn gadael gwledydd Prydain heddiw am Y Ffindir, lle bydd yn cyfarfod ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Yn ystod ei ymweliad â’r Alban, fe fu Donald Trump yn aros yng nghwrs golff Turnberry ar ôl cyfarfod â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May a Brenhines Loegr.
Mae disgwyl iddo fe a’i wraig Melania hedfan o Glasgow Prestwick i Helsinki.
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y gallai ei gyfarfod â Vladimir Putin fod yn “haws” na’r cyfarfodydd â Nato a Theresa May.
Protestiadau
Ddydd Sadwrn, fe gafodd Donald Trump ei heclo gan brotestwyr yn Turnberry oedd yn ei alw’n “hiliol”.
Fe fu miloedd o bobol yn gorymdeithio drwy Gaeredin yn ystod y dydd yn erbyn ei ymweliad, yn dilyn protestiadau tebyg yn Llundain, Glasgow a Belfast ddydd Gwener.
Fe wnaeth e chwifio wrth i’r protestwyr ymgynnull tra ei fod yn chwarae golff.