Mae dros 130 o bobl wedi cael eu lladd mewn ymgyrch etholiad hynod gythryblus yn Pacistan.

Daeth i’r amlwg bellach fod ymgeisydd i senedd ranbarthol Baluchistan, Siraj Raisani, ymhlith 128 o bobl a gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr mewn rali yn nhref Mastung yn ne’r wlad.

Fe fu farw pedwar arall mewn ymosodiad yng ngogledd-orllewin y wlad.

Dal i gynyddu mae’r tensiynau yn yr etholiad, gyda’r cyn-brif weinidog Pacistan bellach yn y ddalfa.

Mae Nawaz Sharif newydd ddychwelyd o Lundain i wynebu dedfryd o 10 mlynedd ar gyhuddiadau’n ymwneud a llygredd.

Rpedd wedi bod yn galw ar gefnogwyr i bleidleisio dros ymgeiswyr ei blaid. Mae disgwyl iddo apelio yn erbyn ei ddedfryd a gwneud cais am fechnïaeth.