Mae o leia’ ddeg o bobol wedi marw, a 25 wedi eu hanafu, ar ôl i fom ffrwydro ger rali etholiadol gwleidydd ym Mhacistan.

Yn ôl llefarydd y prif ysbyty yn Quetta, maen nhw wedi derbyn deg corff yn dilyn y ffrwydrad yn Mastun, tre’ yn ne-orllewin talaith Baluchistan.

Mae’n debyg bod yr ymosodwyr wedi targedu Siraj Raisani, sy’n ymgeisio am sedd yn etholiadau’r rhanbarth ar Orffennaf 25.

Yn ôl swyddogion mae Siraj Raisani wedi ei anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad.