Mae 19 person wedi cael eu lladd a 12 wedi’u hanafu, yn dilyn ffrwydrad mewn parc diwydiannol yn Tsieina.

Fe fu’r ffrwydrad am tua 6:30yh ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 12) ar safle gorsaf gemegol Tibin Hengda Technology, sydd wedi’i lleoli mewn parc diwydiannol yn ninas Yibin, talaith Sichuan.

Yn ôl yr awdurdodau lleol, mae’r tân bellach o dan reolaeth ac mae’r rheiny a gafodd eu hanafu mewn cyflwr sefydlog.

Mae damweiniau diwydiannol yn gyffredin iawn yn Tsieina, er gwaetha’r ymdrechion i wella safonau iechyd a diogelwch.