Mae artist digartre’, sydd heb freichiau, wedi cael ei gyhuddo o drywanu dyn yn yr Unol Daleithiau.

Mi gafodd Jonathan Crenshaw, 46, sy’n enwog am ddarlunio gyda’i draed, ei arestio ar draeth Miami yn Fflorida.

Yn ôl adroddiad sydd wedi’i baratoi gan yr heddlu, fe ddywedodd yr artist ei fod yn gorwedd ar y llawr pan ddaeth Cesar Coronado, 22 oed, heibio iddo a’i daro yn ei ben.

Ond yn ôl Cesar Coronado o Chicago, roedd wedi gofyn i Johnathan Crenshaw am gyfarwyddiadau, ond ei fod yntau wedi ymateb trwy ei drywanu.

Mae’r adroddiad yn nodi bod yr artist wedi trywanu’r ymwelydd ddwywaith gyda siswrn, cyn rhoi’r pâr ôl yn ei fag a cherdded i ffwrdd.

Mi gafodd Johnathan Crawshaw ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau yn dilyn y digwyddiad.