Mae actores bornograffig sy’n honni iddi gael rhyw â Donald Trump tra oedd yn briod, wedi cael ei harestio mewn clwb i ddawnswyr noeth yn yr Unol Daleithiau.

Daw hyn wrth iddi gael ei hamau o adael i gwsmeriaid ei chyffwrdd tra’r oedd yn perfformio mewn clwb yn ninas Columbus, Ohio.

Yn ôl y gyfraith yn nhalaith Ohio, does dim hawl gan unrhyw un, heblaw am aelodau o’r teulu, gyffwrdd dawnswraig noeth neu rannol noeth.

Ond mae cyfreithiwr Stormy Daniels yn mynnu bod y cwsmeriaid wedi’i chyffwrdd mewn ffordd “nad oedd yn rhywiol”.

Mae hefyd wedi disgrifio’r digwyddiad yn un “hollol ddisynnwyr”, ac mae’n amau ei fod wedi’i drefnu o flaen.

Mae Stormy Daniels wedi bod yn llygaid y cyfryngau dros y flwyddyn ddiwetha’ ar ôl iddi honni iddi gael rhyw gyda Donald Trump yn 2006 ac yntau’n briod.

Mae’r Arlywydd wedi gwadu’r honiad hwn, ynghyd â’r honiad ei fod ef a’i gyfreithwyr personol, Michael Cohen, wedi cynnig arian iddi cyn etholiad arlywyddol 2016 er mwyn  iddi gadw’n dawel.