Mae Donald Trump wedi cyhuddo’r Almaen o gael ei “rheoli” gan Rwsia.

Daw’r sylw wrth i uwchgynhadledd gael ei chynnal ym Mrwsel heddiw rhwng aelodau NATO.

Wrth gyrraedd y digwyddiad, fe ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ei bod yn “hollol annerbyniol” bod yr Amlaen yn talu bliniynau o ddoleri i Rwsia ar gyfer olew a nwy, ond yn talu ond ychydig dros 1% o’i GDP ar amddiffyn.

Mae hyn, meddai ymhellach, mewn cymhariaeth â’r 4.2% y mae’r Unol Daleithiau yn ei thalu.

“Rydym ni’n amddiffyn yr Almaen, rydym ni’n amddiffyn Ffrainc, rydym ni’n amddiffyn yr holl wledydd hyn ac yna mae nifer ohonyn nhw’n creu cytundebau olew gyda Rwsia ac yn talu biliynau o ddoleri y flwyddyn i bocedi Rwsia,” meddai Donald Trump.

“Dw i’n meddwl bod hyn yn hollol annerbyniol. Ddylai hyn byth fod wedi digwydd.

“Mae’r Almaen yn cael ei rheoli’n llwyr gan Rwsia oherwydd y byddan nhw’n derbyn 60% i 70% o’i ynni o Rwsia a’r pibelli newydd.”

Tensiynau’n cynyddu

Mae Donald Trump eisoes wedi creu cynnwrf ymhlith gwledydd NATO, wrth iddo godi cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad yr Unol Daleithiau i’r corff rhyngwladol.

Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn gwneud cyhoeddiad yn ystod y dydd, gan addo y bydd 440 o filwyr ychwanegol yn cael eu hanfon i Afganhistan.

Mae hi hefyd wedi mynnu bod Llywodraeth Prydain wedi cyrraedd y nos o wario 2% o GDP ar amddiffyn.