Mae mwy na 130 o bobol wedi marw yn dilyn dyddiau o law trwm a llifogydd yn ne-orllewin Japan.

Yn ôl timoedd achub, maen nhw bellach yn chwilio am fwy na 50 o bobol sydd ar goll yn ardal Hiroshima – yr ardal sydd wedi diodde’ fwya’.

Erbyn hyn, mae’r tywydd wedi gwella tipyn, ond mae gwaith achub wedi cael ei ohirio oherwydd y gwres a’r mwd.

Mae  llwyth o fwydydd a diod yn cael eu hatal rhag cyrraedd rhai ardaloedd ynysig hefyd, a hynny oherwydd y difrod sydd wedi’i wneud i ffyrdd.

Mae llywodraeth Japan bellach wedi sefydlu tasglu, ynghyd â gwario dau filiwn yen (£13.6m), er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd yr ardaloedd hynny.

Mae’r rheiny a gafodd eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi wedyn, wedi dychwelyd i’r ardal ac yn ymgymryd â’r gwaith o glirio’r llanast.