Mae o leia’ 100 o bobol wedi marw yn Japan yn sgil llifogydd a thirlithriadau.

Ers dydd Iau (Gorffennaf 5) mae gorllewin y wlad wedi profi glaw trwm, a hyd yma mae dwy filiwn o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.

Ardal Hiroshima sydd wedi’i tharo waethaf, ac mewn sawl un o daleithiau Japan mae ‘na adeiladau sydd wedi’u dinistrio’n llwyr.

Mae’n debyg bod 60 unigolyn ar goll o hyd, a bellach mae ymgyrch achub ar droed i ddod o hyd iddyn nhw.

Ac mae Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe, wedi anfon 73,000 o filwyr a gweithwyr brys i gynorthwyo â’r ymdrech.