Mae’r awdurdodau yn Iran wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dienyddio wyth o aelodau honedig o’r Wladwriaeth Islamaidd a oedd yn rhan o ymosodiad ar senedd y wlad ac ar fan gysegredig er cof am Ayatollah Khomeini yn ninas Tehran.

Mae’r wyth wedi’u henwi Soleiman Mozafari, Esmail Sufi, Rahman Behrouz, Majed Mortezai, Sirous Azizi, Ayoub Esmaili, Khosro Ramezani ac Osman Behrouz.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yn Tehran ar Fehefin 7 y llynedd, ac fe gafodd o leiaf 18 o bobol eu lladd. Fe anadwyd mwy na 50 o bobol hefyd.

Mae beth bynnag ddwsini arall o bobol yn dal i wynebu achos llys am fod â rhan yn yr ymosodiad gan IS yn Iran.