Mae un o’r deifwyr yng Ngwlad Thai, oedd yn rhan o’r tîm sydd wedi bod yn ceisio achub dwsin o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed sy’n gaeth mewn ogof, wedi marw oherwydd diffyg ocsigen.

Roedd y nofiwr tanddwr wedi bod yn aelod o uned arbenigol Llynges Gwlad Thai ac wedi gwirfoddoli i helpu gyda’r gwaith o geisio achub y grŵp. Bu farw mewn ymdrech dros nos i ddod a chyflenwadau ocsigen i’r grŵp yn yr ogof.

Roedd o dan y dŵr pan aeth yn anymwybodol ac roedd ymdrechion i’w achub wedi methu, meddai llefarydd mewn cynhadledd newyddion.

Ychwanegodd Arpakorn Yookongkaew y byddan nhw’n parhau gyda’r ymdrech i achub y grŵp er gwaetha marwolaeth y deifiwr.

Mae’r awdurdodau yng Ngwlad Thai ar ras i geisio pwmpio dŵr o’r ogof lle mae’r bechgyn a’u hyfforddwr wedi bod yn sownd ers 23 Mehefin, cyn i law trwm daro’r rhanbarth a llenwi’r ogof unwaith eto.

Maen nhw’n gobeithio gostwng lefel y dŵr mewn un rhan o’r ogof fel nad yw’r bechgyn yn gorfod dibynnu ar offer nofio tanddwr am gyfnod hir ac y gallen nhw gadw eu pennau uwchben y dŵr.

“Allwn ni ddim aros i’r holl amodau (fod yn barod) oherwydd mae’r amgylchiadau’n rhoi pwysau arnon ni,” meddai Arpakorn Yookongkaew.

“Yn wreiddiol, roedden ni wedi meddwl y gallai’r bechgyn aros yn ddiogel yn yr ogof am beth amser ond mae’r amgylchiadau wedi newid. Mae’r amser yn gyfyng.”

Mae’n bosib na fydd yr 13 yn cael eu symud o’r ogof ar yr un pryd, yn dibynnu ar eu cyflwr iechyd.

Roedd y bechgyn, sydd rhwng 11 a 16 oed a’u hyffordd 25 oed, wedi bod yn ogof Tham Luang Nang Non yn dilyn gem pêl-droed, pan lifodd dwr i mewn i’r ogof gan eu rhwystro rhag dianc. Roedd timau achub wedi cymryd 9 diwrnod i ddod o hyd iddyn nhw.

Dau aelod o Gymru

Mae dau aelod o dîm achub yng Nghymru ymhlith y deifwyr oedd wedi dod o hyd i’r grŵp yn yr ogof.Mae Rick Stanton a John Volanthen yn cael eu cyfri’ ymhlith deifwyr gorau’r byd, ac fe gawson nhw eu galw pan wnaeth yr awdurdodau yng Ngwlad Thai apêl am gymorth.

Mae Rick Stanton yn ymladdwr tân o Coventry, tra bo John Volanthen yn arbenigwr mewn Technoleg Gwybodaeth o Fryste.

Mae’r ddau’n aelodau o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru, a dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn gyfrifol am achub nifer o bobol sy’n sownd mewn ogofau.