Mae gweinidog tramor Iran wedi galw am gymorth cenhadon o Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Belg ynglyn ag achos diplomydd o Iran sy’n cael ei gadw yn yr Almaen.

Mae Abbass Araghchi wedi cynnal cyfarfodydd ar wahân gyda’r tri diplomydd yn Tehran i fynegi “protest gref” Iran yn erbyn cadw’r cennad, Assadollah Assadi, yn Ewrop

Cafodd Assadollah Assadi ei ddal ddydd Sul ger dinas Aschaffenburg yn yr Almaen. Roedd gwarant wedi’i chyhoeddi i’w arestio ar amheuaeth o gymryd rhan mewn cynllwyn i fomio rali gwrthblaid Iran yn Ewrop.

Fe ddaw ei arestio hefyd wedi i’r awdurdodau atal cwpwl sy’n hanu o Iran yng ngwlad Belg, cyn y daeth yr awdurdodau o hyd i ffrwydron pwerus yn eu car.