Fe gafodd y Statue of Liberty ei wagio ar Ddiwrnod Annibyniaeth America ddoe (fory, Gorffennaf 4) wedi i ddynes ddringo gwaelod yr adeilad mewn protest yn erbyn polisi mewnfudo’r Unol Daleithiau.

Fe ddigwyddodd y brotest oriau ar ôl i nifer o bobol eraill hongian baner ar sylfaen y cerflun a chael eu harestio.

Roedd y ddringwraig yno am bedair awr cyn i’r heddlu ddringo i fyny ati.

Gyda’r olygfa ddramatig yn datblygu ar deledu byw, roedd hi a’r swyddogion yn ymylu’n ofalus o amgylch y cerflun tuag at ysgol, a dringo i lawr tua wyth metr i bwynt arsylwi’r gofeb a chafodd ei roi yn y ddalfa.