Fe chwaraeodd capten tîm pêl-droed Nigeria yn y gêm yn erbyn yr Ariannin yr wythnos ddiwetha’, gan wybod bod ei dad newydd gael ei herwgipio oriau ynghynt.

Fe gafodd John Obi Mikel wybod am y digwyddiad bedair awr cyn un o gemau cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Mewn datganiad ddoe (ddydd Mawrth, Gorffennaf 3), mi ddywedodd y cyn-chwaraewr i glwb Chelsea nad oedd wedi hysbysu ei gyd-chwaraewyr na’i hyfforddwyr am y digwyddiad, a’i fod wedi mynd i “gynrychioli ei wlad yn gyntaf.”

Mi gollodd Nigeria yn erbyn yr Ariannin o ddwy gôl i un yn y gêm a gafodd ei chwarae yn St Petersburg.

Mae ei dad, Michael Mikel, bellach wedi cael ei ryddhau yn rhanbarth Engu yn ne-ddwyrain Nigeria.

Dyma’r eildro i’w dad gael ei herwgipio.