Mae dyn yn cario cyllell wedi anafu a lladd plismon yn Japan, cyn dwyn dryll a saethu giard diogelwch yn farw y tu allan i ysgol yng ngogledd y wlad.

Mae heddlu Toyama wedi cadarnhau fod y gwr arfog, yntau, wedi’i saethu gan blismon, a’i ddal yn dilyn yr ymosodiad.

Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd y rheswm y tu ol i’r ymosodiad.

Fe gafodd gatiau’r ysgol eu cloi gan athrawon, ac fe gafodd y disgyblion eu harwain i ddiogelwch ystafell ddosbarth.