Mae Arlywydd Macedonia wedi gwrthod rhoi sêl bendith i newid enw ei wlad yn swyddogol i ‘Ogledd Macedonia’.

Mae Gjorge Ivaanov wedi bygwth droeon ei fod yn wrthwynebus i’r cytundeb rhwng Groeg i newid yr enw, a hynny ar y sail ei fod yn “anghyfansoddiadol”, yn ei farn ef.

Ond er ei fod wedi gwrthod y newid, ni fydd hyn ond yn oedi’r broses i senedd Gweriniaeth Macedonia.

Yn ôl cyfansoddiad y wlad, os yw aelodau seneddol yn cyfarfod am yr eildro i ganiatáu deddf y mae’r Arlywydd wedi gwrthod ei harwyddo, yna ni all yr Arlywydd ei hatal ymhellach.

Mae llefarydd ar ran y senedd yn dweud ei bod yn debygol y byddai aelodau seneddol yn pleidleisio o blaid y newid yr wythnos nesa’.

Ar ôl pasio’r ddeddf, mi fydd yna dal nifer o gamau i’w cymryd ar ran Llywodraeth Groeg, sy’n cynnwys cynnal refferendwm ar y mater ym Macedonia yn yr hydref.