Mae Algeria yn gwadu ei bod wedi gadael 13,000 o ffoaduriaid yng nghanol anialwch y Sahara heb fwyd na dŵr dros y 14 mis diwethaf.

Mae adroddiadau fod y bobol – yn cynnwys gwragedd a phlant – wedi’u gwahardd o’r wlad, ac wedi’u gorfodi i gerdded mewn haul crasboeth, gan filwyr arfog.

Eto, yn ôl adroddiadau gan rai sydd wedi gwneud y daith o Algeria i Niger, mae’n bosib gweld ffoaduriaid yn cerdded dros y gorwel, weithiau mewn gwres o hyd at 48 gradd Celsius.

Mae’r mwyafrif yn anelu am Niger, y wlad drws nesaf, ac mae’r rhai lwcus yn llwyddo i faglu dros y tir neb at bentref Assamaka sydd ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Mae eraill, llai lwcus, yn crwydro am ddyddiau cyn bod cerbydau’r Cenhedloedd Unedig yn dod o hyd iddyn nhw a’u hachub.

Mae nifer wedi marw wrth geisio gwneud y daith, ac mae’r rheiny sydd wedi goroesi yn dweud hefyd bod criwiau yn “diflannau” yn y Sahara.