Dydy Arlywydd Zimbabwe, Emmerson Mnangagwa ddim wedi cael ei anafu yn dilyn ffrwydrad mewn stadiwm yn ninas Bulawayo yn ystod rali wleidyddol.

Mae adroddiadau iddo gael ei symud o’r safle’n ddiogel yn dilyn y digwyddiad.

Roedd yn gadael y podiwm ar ôl annerch rali ar drothwy etholiadau’r wlad fis nesaf pan ddigwyddodd y ffrwydrad ger pabell llawn pwysigion.

Daeth darllediad cenedlaethol i ben yn dilyn y ffrwydrad.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Mae Emmerson Mnangagwa yn Arlywydd y wlad ers mis Tachwedd, pan gamodd Robert Mugabe o’r neilltu.