Mae awdurdodau Sbaen wedi achub 569 o ffoaduriaid o’r môr wrth iddyn nhw geisio croesi o ogledd Affrica i Ewrop.

Roedd 264 o bobol mewn 16 o gychod oddi ar Gibraltar yn eu plith – darn o fôr lle mae nifer uchel o longau’n hwylio.

Cafodd dau ddyn eu tynnu o ganŵ.

Mae’r tywydd braf a moroedd tawel dros y dyddiau diwethaf wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y ffoaduriaid sy’n ceisio croesi i Ewrop.

Llacio rheolau Sbaen

Mae llywodraeth newydd Sbaen wedi cyhoeddi rheolau llai llym ar ffoaduriaid, gan ymestyn gofal iechyd i dramorwyr sydd heb hawl i fyw yn y wlad.

Wythnos yn ôl, derbyniodd Sbaen 630 o ffoaduriaid o gwch dyngarol Ffrengig ar ôl i Felita a’r Eidal wrthod rhoi cymorth iddyn nhw.