Mae gweinyddiaeth Donald Trump yn galw am ehangu’r defnydd o ganolfannau i gadw ffoaduriaid sy’n cael eu hatal rhag croesi’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

Ond mae’r cynllun wedi’i feirniadu gan wrthwynebwyr fel un creulon ac fel ymgais aneffeithiol i annog ffoaduriaid i gadw draw o’r wlad.

Yn ôl yr awdurdodau ddydd Gwener, fe allen nhw wneud cais am hyd at 15,000 yn rhagor o wlâu i gadw teuluoedd yn y canolfannau.

Ac mae’r Adran Gyfiawnder yn galw am yr hawl i gadw plant am gyfnod hwy mewn canolfannau lle nad oes angen trwydded wrth aros am wrandawiadau llys.

Gwahanu plant

Daw’r newyddion am y cynllun ddyddiau’n unig ar ôl i’r arfer o wahanu plant oddi wrth eu teuluoedd ger y ffin gael ei beirniadu.

Mae mwy na 2,300 o blant wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ger y ffin ers mis Ebrill, pan gafodd cynllun ei gyhoeddi i ddwyn achos yn erbyn pob ffoadur sy’n cael ei ddal yn ceisio mynediad i’r Unol Daleithiau.

Mae oddeutu 9,000 o ffoaduriaid a’u teuluoedd wedi cael eu dwyn i’r ddalfa yn ystod y tri mis diwethaf.

Mae tair canolfan o’r fath yn y wlad ar hyn o bryd – un i ddynion yn nhalaith Pennsylvania a dwy i fenywod a phlant yn nhalaith Tecsas.