Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn cwrdd ddydd Sul (Mehefin 24), er mwyn trafod atebion posib i argyfwng mewnfudwyr y cyfandir.

Yn ôl asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, mae tua 40,000 o bobol wedi cyrraedd Ewrop trwy groesi’r Môr Canoldir eleni.

Ac, er bod niferoedd yn disgyn, fe groesodd dwbwl y dwr y llynedd – mae tensiynau’n parhau’n uchel rhwng gwledydd yr Undeb tros y mater.

Mae’r Eidal a Groeg yn teimlo’n ddig gan mai ar eu glannau hwythau mae’r rhan fwyaf o’r mewnfudwyr yn glanio.

Tra bod Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia, a’r Weriniaeth Tsiec, yn gwrthod lleddfu’r straen ar weddill Ewrop a derbyn rhai o’r ffoaduriaid.

Bydd y “trafodaethau anffurfiol” y penwythnos, yn cael eu cynnal ym Mhencadlys y Comisiwn Ewropeaidd, gyda’r nod o “ffeindio ateb Ewropeaidd” i’r her.