Mae Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, wedi datgan y bydd canabis yn gyfreithlon ledled y wlad o Hydref 17 ymlaen.

Nod y cam yw amddiffyn ieuenctid Canada, a rhwystro troseddwyr rhag medru elwa’n ariannol o werthu’r cyffur, meddai’r arweinydd.

Hon yw’r ail wlad i gyfreithloni canabis a chaniatáu masnach o’r deunydd, tros y wlad oll – Wrwgwái oedd y cyntaf i wneud hynny.

Ond, mi fydd y drefn ychydig yn wahanol yng Nghanada, gan fod pob un o’i thaleithiau yn gyfrifol am bennu rheolau eu hunain tros werthiant canabis.

Tyfu yn y tŷ

Mae ‘na ansicrwydd tros ambell fater o hyd, gan gynnwys y rheolau ynghylch tyfu canabis yn y cartref.

Mae taleithiau Quebec a Manitoba, eisoes wedi penderfynu y byddan nhw’n gwahardd pobol rhag tyfu’r cyffur yn eu cartrefi, er bod llywodraeth y wlad am ganiatáu hynny.