Mae tensiwn yn cynyddu o ddrwg i waeth rhwng Israel a llain Gaza, ar ôl i’r grŵp Palestinaidd, Hamas, dargedu rocedi at gymunedau yn ne Israel.

Dyma’r gwrthdaro mwyaf rhwng y ddwy wlad ers wythnosau, gyda Israel yn ymateb i ymosodiadau y maen nhw’n credu y mae Hamas yn gyfrifol amdanyn nhw.

Yn ôl byddin Israel, roedd ei hawyrennau wedi targedu tua 25 o safleoedd dros nos mewn ymateb i’r ymosodiadau gan y grŵp.

Roedd hyn, medden nhw, mewn ymateb i 45 roced a bomiau mortar a gafodd ei tanio at dde’r wlad, gyda rhai ohonyn nhw’n dinistrio adeiladau.

Ond er bod Hamas wedi canmol yr ymosodiadau cyntaf ar Israel, nid ydyn nhw wedi cymryd cyfrifoldeb.

Yn ôl adroddiadau, does neb wedi’u hanafu yn sgil yr ymosodiadau.

Protestiadau’r ffin

Mae ardal y ffin wedi bod yn un llawn tensiwn yn ystod y misoedd diwetha’, wrth i Balestiniaid gynnal protestiadau yn erbyn y blocâd gan Israel a’r Aifft sydd mewn grym ers 2007.

Mae mwy na 100 o Palestiniaid wedi cael eu lladd gan luoedd Israel ers i’r protestiadau ddechrau.

Ond mae Israel wedi ymateb trwy ddweud mai dim ond amddiffyn y ffin y mae ei swyddogion, ac maen nhw’n cyhuddo Hamas o ddefnyddio’r protestiadau fel esgus i ymosod.