rhyfel cartref Yemen ar ei hanterth, mae Llywodraeth y wlad wedi dechrau ennill tir yn y gorllewin.

Mae Llywodraeth Yemen – ynghyd â’u cefnogwyr yn y Dwyrain Canol – wedi bod yn brwydro yn erbyn gwrthryfelwyr Houthi – sydd â chefnogaeth Iran – ers 2015.

A bellach mae ymgyrch wedi’i lansio i gipio dinas orllewinol, Hodeida, o ddwylo’r gwrthryfelwyr.

Y ddinas hon yw un o brif byrth y wlad, a hyd yma mae’r fyddin wedi llwyddo adennill rheolaeth tros ran o’i maes awyr.

Mae’n debyg bod y brwydro ar ei fwyaf ffyrnig yn ardal ad-Durayhimi.