Mi fydd protestiadau yn cael eu cynnal yn Rwsia yn erbyn codi’r oedran ymddeol, a hynny yn ninasoedd y wlad lle nad yw gemau Cwpan y Byd yn cael eu chwarae.

Arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny, sydd wedi galw am y protestiadau, wrth iddo wrthwynebu codi’r oedran ymddeol o 60 i 65 oed i ddynion, a 55 i 63 oed i fenywod.

Mae’r papur newydd, The Moscow Times, yn adrodd bod 1.8m eisoes wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno gan Brif Weinidog Rwsia, Dmitry Medvedev.

Dilyn y gyfraith

Yn ôl cyfraith arbennig a gafodd ei gyflwyno gan Arlywydd y wlad, Vladimir Putin, ar drothwy cystadleuaeth Cwpan y Byd, mae’n anghyfreithlon cynnal protestiadau yn y dinasoedd hynny lle bydd gemau’n cael eu chwarae.

Dyna pam mae Alexei Navalny, a gafodd ei garcharu am 30 diwrnod am gynnal protest anghyfreithlon yn Moscow yn ddiweddar, wedi galw am y protestiadau i ddigwydd mewn dinasoedd eraill.

“Gadewch i ni fod yn onest, mae cynnydd yn yr oedran ymddeol, trwy law Putin a Medvedev, yn wir drosedd…” meddai Alexi Navalny ar y wefan gymdeithasol, Instagram.

“Dyma’r lladrata arferol oddi ar ddegau ar filoedd o bobol o dan fwgwd ‘diwygiad angenrheidiol’.”