Mae bron i 69 miliwn o bobol ledled y byd wedi ffoi o’u cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ o ganlyniad i ryfel, trais neu erledigaeth, yn ôl ffigyrau newydd.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Ffoaduriaid, sy’n cael ei gynnal yfory (dydd Mercher, Mehefin 19), mae’r ffigyrau wedi cael eu rhyddhau gan gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig sy’n delio â ffoaduriaid.

Maen nhw’n dangos bod y cynnydd yn ystod y pum mlynedd ddiwetha’ wedi parhau yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ hefyd.

Yn ôl y comisiynydd, Filippo Grandi, mae argyfyngau mewn lleoliadau fel De Sudan a’r Congo, ynghyd ag ymadawiad nifer o Fwslemiaid Rohingya o Burma y llynedd, wedi ychwanegu at y ffigwr o 68.5m a gafodd ei gofnodi yn 2017.

Problem i’r byd cyfan

Mae’r comisiynydd yn dweud bod y ffigyrau’n dangos nad mewn gwledydd datblygedig a chyfoethog yn unig mae yna broblem o ran ffoaduriaid.

Mynnodd fod 85% o ffoaduriaid wedi’u lleoli mewn gwledydd annatblygedig, gyda nifer o’r gwledydd hynny’n “hynod dlawd”.

“Mi ddylai chwalu’r ddamcaniaeth mewn nifer o wledydd, mai problem unigol i’r gwledydd cyfoethog yw’r argyfwng ffoaduriaid,” meddai.

“Dyw hynny ddim yn wir. Mae’n parhau’n argyfwng yn y rhan fwya’ o wledydd tlawd y byd.”